Llys Ynadon Wimbledon
Mae ail ddyn wedi ymddangos gerbron llys, mewn cysylltiad a lladrad a adawodd darlithydd prifysgol gydag anafiadau difrifol i’w wyneb.

Fe fu Pawel Honc, 23, gerbon ynadon yn Wimbledon, de-orllewin Llundain, heddiw yn dilyn ymgais i ladrata o gartre’ darlithydd yn Y Gyfraith, Paul Kohler, 55.

Yn ystod y gwrandawiad deng munud, ni phlediodd y diffynydd.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yr achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron Kingston ar Awst 27.

Roedd dyn 32 oed yn y doc yn yr un llys ynadon ddoe, wedi’i gyhuddo o’r un troseddau.

Mae’r heddlu’n dal i chwilio am drydydd a phedwerydd dyn mewn cysylltiad a’r digwyddiad.