Mae nyrs oedd yn gofalu am ddynes 89 oed fu farw mewn cartref gofal yn Sir y Fflint wedi derbyn rhybudd ffurfiol.

Clywodd gwrandawiad fod Hazel Gillian Stears yn gyfrifol am reoli Cartref Gofal Morfa Newydd pan fu farw Gwen Cartlidge ar ôl derbyn y feddyginiaeth anghywir.

Derbyniodd feddyginiaeth claf arall, a chafodd hi ei tharo’n wael yn ddiweddarach.

Roedd y ddynes oedrannus wedi bod yn y cartref ddeuddydd yn unig pan fu farw.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd Hazel Gillian Stears yn gyfrifol am ei marwolaeth, ond ei bod hi wedi methu ag ymateb yn briodol i’r camgymeriad.

Doedd hi ddim wedi dweud wrth deulu’r ddynes am y gwall, a doedd dim cofnod ohono ei nodiadau meddygol.

Penderfynodd y panel disgyblu ei bod hi wedi camymddwyn a bod nam ar ei gallu i weithio fel nyrs o’r herwydd.

Ond penderfynon nhw beidio â thynnu ei hawl i weithio oddi arni. Bydd y rhybudd ffurfiol yn aros ar ei chofnod gwaith am 12 mis.