Mae un o gynghorwyr Caerdydd wedi ymddiswyddo oherwydd “diwylliant, agwedd a gwahaniaethu o ran rhyw” o fewn y Blaid Lafur.
Datgelodd Siobhan Corria, cynrychiolydd Gogledd Llandaf, ei anhapusrwydd gyda Llafur gan ddweud bod gormod o “wleidyddiaeth fewnol” y blaid.
“Rwyf wedi bod yn anhapus am amser hir yn y Blaid Lafur. Dydi e ddim i wneud gyda’r grŵp Llafur na’r arweinyddiaeth (o fewn y cyngor),” meddai’r cynghorydd 35 oed a gafodd ei hethol gynta’ yn 2012.
“Dw i ddim eisiau cynrychioli plaid sy’n hapus i bardduo ei haelodau ei hun.”
Honiadau
Mae hi’n honni iddi siarad gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru, David Hagendyk, nifer o weithiau ar faterion “diwylliant, agwedd a rhywiaeth o fewn y Blaid Lafur” ond mae hi’n dweud nad yw wedi gwneud unrhywbeth am hynny.
Ychwanegodd: “Mae yna ddiffyg gweithredu ac rwy’n flinedig. Mae gen i blant i’w magu ac mae’n rhaid blaenoriaethu beth sy’n eich gwneud yn hapus.
“Mae yna elfen o dristwch ond dw i ddim yn ei fwynhau. Dw i’n mwynhau’r pethau sydd ddim yn cynnwys y Blaid Lafur ond mae gormod o ffocws ar faterion mewnol.”
Dywedodd bod yn rhaid cael “newidiadau gwirioneddol i agweddau” tuag at ferched mewn bywyd cyhoeddus.
Mae hi wedi dweud yn y gorffennol na fyddai’n annog unrhyw sy’n magu plant ifanc i fod yn gynghorwr.
Ymateb Llafur Cymru
Yn ôl llefarydd dros Lafur Cymru, mae’r darlun y mae Siobhan Corria yn bortreadu o aelodau’r blaid yn un “na wnaiff aelodau, actifyddion na staff gydnabod.”
Ychwanegodd: “Diolch i arweinyddiaeth yr Ysgrifennydd Cyffredinol, mae gan Lafur Cymru fwy o ferched sy’n ymgeiswyr yn mynd mewn i’r Etholiad Cyffredinol nag erioed o’r blaen, mwy o ferched sy’n gynghorwyr nag erioed o’r blaen, a grŵp sy’n gytbwys o ran rhyw yn y Senedd (yng Nghaerdydd).
“Yn ogystal â chynyddu nifer y merched sydd wedi eu dewis, mae Llafur Cymru wedi archwilio (overhaul) y gefnogaeth a’r hyfforddiant sy’n cael ei roi i ferched yn y blaid er mwyn cynyddu ymrwymiad a’r rheiny sy’n cymryd rhan.
“Mae hi’n anwir i ddweud nad yw Llafur Cymru neu aelodau unigol o staff wedi methu i weithredu mewn unrhyw ffordd. Yn dilyn cyfarfod gyda Siobhan, roedd Llafur Cymru yn gwbl gefnogol i weithredu cefnogol ddigwydd i ddelio gyda’r pryderon a godwyd. Mae’r pryderon a’r argymhellion gyda’r grŵp Llafur ac yn derbyn gweithrediad gan swyddogion y grŵp.”