David Cameron
Mae David Cameron wedi dychwelyd o’i wyliau i gadeirio cyfarfod o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, sy’n trafod yr argyfwng yn Irac.

Nid oedd disgwyl i’r Prif Weinidog ddychwelyd o’i wyliau ym Mhortiwgal tan yfory, ond mae wedi bod dan bwysau i ystyried ymyrryd yn filwrol yn Irac.

Mae awyrennau’r Llu Awyr wedi bod yn gollwng cyflenwadau dyngarol i filoedd o bobl o’r gymuned Yazidi sy’n gaeth ar fynydd Sinjar wrth i eithafwyr IS agosáu.

Fe fydd hofrenyddion Chinook yn cael eu hanfon i’r rhanbarth ac fe fydd Prydain hefyd yn cludo offer milwrol i luoedd Cwrdaidd.

Ond mae nifer o ffigurau milwrol, crefyddol a gwleidyddol amlwg yn pwyso ar David Cameron i fynd ymhellach a galw’r Senedd yn ôl er mwyn rhoi’r cyfle i Aelodau Seneddol bleidleisio ynglŷn â ddylai’r DU ymuno a’r Unol Daleithiau drwy gynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd IS.

Yn y cyfamser mae’r Unol Daleithiau wedi anfon 130 o filwyr i Irac er mwyn asesu maint yr argyfwng dyngarol, yn ôl y Pentagon.