Mark Bridger
Mae Mark Bridger, llofrudd y ferch fach April Jones o Fachynlleth, wedi colli cais am filoedd o bunnoedd o iawndal ar ôl i garcharor arall ymosod arno.
Cafodd anafiadau i’w wyneb yn ystod ymosodiad yng ngharchar Wakefield yn Swydd Efrog, ac roedd wedi mynnu cael ei symud oddi yno yn dilyn y digwyddiad fis Gorffennaf y llynedd.
Ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod hefyd, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Bydd Bridger yn treulio gweddill ei oes dan glo am lofruddio April Jones ym mis Hydref 2012.
Dydy corff y ferch fach ddim wedi cael ei ddarganfod, er gwaetha’r chwilio mwyaf yn hanes yr heddlu yng ngwledydd Prydain.
Mae carchar Wakefield yn cynnwys rhai o droseddwyr mwyaf peryglus gwledydd Prydain, gan gynnwys y dyn wnaeth ymosod ar Bridger, Juvinai Ferreira.
Cafodd y dyn 22 oed ei garcharu am oes am lofruddio.
Ym mis Ionawr, penderfynodd Bridger beidio apelio yn erbyn ei ddedfryd, er bod gwrandawiad wedi’i drefnu.