Andrew RT Davies,
Fe ddylai sesiynau holi’r Prif Weinidog gael eu newid a gweithgareddau eraill y Cynulliad gael eu hadolygu er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl wylio a thrwy hynny hybu cysylltiad y cyhoedd yng ngwaith y Cynulliad, meddai’r Ceidwadwyr yng Nghymru.
Yn ôl arweinydd y blaid, Andrew RT Davies, byddai newid amser y sesiynau yn rhoi mwy o gyfle i bobl wylio’r sesiynau ar deledu neu ar-lein.
Byddai hynny hefyd yn rhoi gwell cyfle i raglenni newyddion wneud mwy o ddefnydd o’r sesiwn, meddai.
Mae’r sesiynau holi, lle mae cyfle i’r Aelodau Cynulliad ofyn cwestiynau i Carwyn Jones, yn cael eu cynnal am 1.30pm ar ddydd Mawrth ar hyn o bryd.
Ymhlith y newidiadau eraill sydd wedi’u hawgrymu gan y Ceidwadwyr Cymreig yw i’r Prif Weinidog fynychu’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan.
Mae sesiynau tebyg eisoes yn cael eu cynnal gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
‘Tryloywder a chraffu’
Fe gyfeiriodd Andrew RT Davies at ddigwyddiadau diweddar, fel diswyddo’r cyn weinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Alun Davies, gan ddweud bod hyn yn arwydd o broblemau ehangach o ran tryloywder ac atebolrwydd o fewn Llywodraeth Cymru.
“Mae tryloywder a chraffu yn amheus ar y gorau,” meddai, “ac mae’n hen bryd i ni newid trefn y gweithgareddau. Gallai newid technegol hybu cysylltiad y cyhoedd ac adfer eu ffydd, sy’n hanfodol bwysig.
“Rwyf eisiau gweld newid i’r drefn o’r prosesau y tu ôl sgrwtineiddio’r Prif Weinidog.
“Mae’n rhaid i’r Cynulliad ddal dychymyg y cyhoedd. Mae hynny’n golygu meddwl yn radical gan roi cyfle i fwy o bobol gymryd rhan yn ystod cyfnodau sy’n gyfleus iddyn nhw.”
Ond dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, bod adolygiad o’r sesiynau holi wedi bod rhwng mis Mawrth a Mai eleni.
“Rwy’n synnu i weld y cynlluniau yma ar gyfer diwygio ac adfywio gwaith y Cynulliad sy’n parhau i gael eu gwneud yn gyhoeddus gan Andrew RT Davies,” meddai.
“Fe gafodd yr holl bleidiau’r cyfle i wneud sylw ar y rhaglen honno a chytunwyd ar hynny yn unfrydol gan y pedair plaid ar y Pwyllgor Busnes.”