Ched Evans
Mae clwb cefnogwyr Sheffield United wedi dweud y byddai ymosodwr Cymru, Ched Evans yn cael ei groesawu nôl i’r clwb pan fydd e’n cael ei ryddhau o’r carchar.

Cafodd ymosodwr Cymru ei garcharu yn 2012 am dreisio dynes mewn gwesty yng ngogledd Cymru.

Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref wedi iddo gwblhau hanner ei ddedfryd o bum mlynedd.

Er awydd y cefnogwyr i’w groesawu nôl, mae’r clwb wedi gwrthod gwneud sylw am ddyfodol Evans hyd yn hyn.

Ond dywed aelod o’r clwb cefnogwyr ei fod e wedi cael clywed y bydd Evans yn cael dychwelyd i’r clwb.

Dywedodd Alan Evans: “Dw i wedi cael fy arwain i gredu y bydd hynny’n digwydd.

“Rwy wedi cael gwybod y bydd e’n dychwelyd.”

Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd y rhan fwyaf o gefnogwyr y clwb yn ei gefnogi pe bai’n dychwelyd, er gwaethaf deiseb wedi’i llofnodi gan 59,000 o bobol yn ymbil ar y cadeirydd Kevin McCabe i derfynu ei gytundeb.

Plediodd Evans yn ddieuog i’r cyhuddiad ond cafwyd e’n euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon.

Dadl yr erlyniad oedd bod y ddynes yn rhy feddw i roi ei chaniatâd i gael rhyw gydag Evans.

Cyfaddefodd amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald ei fod e wedi cael rhyw â’r ddynes hefyd, ond fe gafwyd e’n ddieuog o’i threisio.

Collodd Evans apêl yn erbyn ei ddedfryd yn 2012, ac mae ei gariad, Natasha Massey wedi bod yn arwain ymgyrch i geisio chwalu’r rheithfarn.