Mae Casnewydd allan o Gwpan y Capital One ar ôl colli 3-1 i Reading neithiwr.

Fe ddechreuodd Casnewydd y gêm yn dda gydag Yan Klukowski, Mark Byrne a Aaron O’Connor yn dod yn agos i rwydo’r bêl.  Ond er gwaethaf eu hymdrechion yn gynnar yn y gêm, Reading oedd yn fuddugol.

‘‘Fe wnaethon ni chwarae’n dda yn erbyn Reading.  Roedd yna adegau yn y gêm lle’r oedd Reading â meddiant am amser hir ond roedden ni’n ddigon bodlon iddyn nhw gael hynny.

“Roedd y sgôr terfynol yn siomedig ond roedden ni’n haeddu’r gôl ac yn falch o’r chwaraewyr,’’ meddai Justin Edinburgh, rheolwr Casnewydd.