Mark Carney
Fe fydd Banc Lloegr yn cyhoeddi ei ragolygon diweddaraf ar gyfer economi’r DU heddiw.
Bydd economegwyr yn aros i glywed a oes unrhyw arwyddion y bydd cyfraddau llog yn codi erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, eisoes wedi awgrymu y gallai cyfraddau llog godi o’u lefel isaf o 0.5% yn gynt na’r disgwyl.
Mae cyfraddau llog wedi aros yr un fath yn 0.5% ers pum mlynedd.