Mae pwysau ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron unwaith eto i ymyrryd yn filwrol yn Irac.

Daw’r galwadau wedi i lywodraeth Prydain gyhoeddi eu bod nhw wedi anfon rhagor o’r fyddin i gyflawni dyletswyddau dyngarol.

Fe fydd hofrenyddion Chinook y Llu Awyr yn cael eu hanfon i gynorthwyo degau o filoedd o drigolion sydd yn gaeth mewn gwres llethol ar fynydd Sinjar, wedi iddyn nhw gael eu dal yno gan ymladdwyr Islamaidd.

Fe fydd llywodraeth Prydain hefyd yn helpu i anfon cyflenwadau i luoedd Cwrdaidd er mwyn helpu ffoaduriaid a phobol sydd yno’n cynnig cymorth dyngarol.

Ond mae arweinwyr milwrol yn galw ar Cameron i ymuno â’r Unol Daleithiau i drefnu cyrchoedd awyr yn erbyn targedau Islamaidd.

Mae’r Cyrnol Tim Collins, ddaeth yn adnabyddus adeg rhyfel Irac yn 2003, wedi rhybuddio mewn llythyr at y Telegraph fod angen cymryd camau yn Irac.

Mae e wedi cyhuddo gwleidyddion o beidio “derbyn cyfrifoldeb moesol” i weithredu yn Irac.

Mae Cristnogion blaenllaw wedi galw ar Cameron i wneud mwy i helpu’r ymdrechion dyngarol yn y wlad.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod galwadau ar iddyn nhw lansio cyrchoedd awyr yn Irac.

Dywedodd llefarydd ar ran  Downing Street fod y llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar yr ymdrechion dyngarol.