Dylai Llywodraeth y DU gyflwyno rhybuddion iechyd ar boteli gwin mewn ymgais i fynd i’r afael a gor-yfed, yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol.
Mae’r Grŵp amlbleidiol Seneddol ar Gamddefnyddio Alcohol wedi dweud y dylai fod labeli ar ddiodydd alcohol yn rhybuddio am effeithiau niweidiol yfed.
Mae rhybuddion iechyd eisoes yn amlwg ar gynhyrchion tybaco ond does dim byd ar gynnyrch alcohol ar hyn o bryd.
Mae’r grŵp wedi galw ar bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i 10 o argymhellion maen nhw’n dweud fydd yn helpu i leihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn y DU.
Mae’r grŵp hefyd yn galw am gyflwyno isafswm pris am uned alcohol, cryfhau’r rheolau sy’n ymwneud â marchnata alcohol a gostwng lefel yfed a gyrru.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rydym yn cymryd camau i leihau gor-yfed ac yn rhoi gwell gwybodaeth am yr effaith y gall yfed ei gael ar iechyd pobl.
“Mae’r diwydiant diodydd wedi ymrwymo i roi negeseuon am unedau alcohol a rhybuddion iechyd ar 80% o boteli a chaniau.”