Bo-Jo
“Rydw i wrth fy modd bod Boris Johnson wedi penderfynu chwilio am etholaeth i sefyll ynddi ar gyfer San Steffan yn 2015,” meddai’r Aelod Seneddol Glyn Davies.
Boris Johnson – neu Bo-Jo i’w gefnogwyr – yw Maer presennol Llundain, ac mae’n dipyn o ffefryn ymysg Ceidwadwyr ar lawr gwlad ac yn ddipyn o ffefryn i olynu David Cameron yn ben ar y blaid.
“Ers ei gyfarfod am y tro cyntaf pan oedd yn ymgeisydd Seneddol yn Ne Clwyd yn 1997 rydw i wedi bod â meddwl mawr o’i reddf wleidyddol a’i allu i ymwneud â’r cyhoedd ar hyd a lled Prydain.”
Aiff AS Maldwyn yn ei flaen i ddweud: “Ddylai neb gael eu twyllo gan y ddelwedd o Boris fel tynnwr coes. Mae yn dalent syfrdanol, yn ymroi i lwyddiant Prydain ac mae ganddo allu unigryw i gyffroi etholwyr…Mae yn ddyn fydd wastad yn mentro a ddim bob tro’n ‘llwyddo’, ond mae yn dalent arbennig. Fel dywedodd y Prif Weinidog, rydym eisiau ein holl chwaraewyr talentog ar y cae.”