Mae 190,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru wedi elwa o gynllun i ymestyn band llydan chwim fel ei fod yn cyrraedd 1 miliwn yn rhagor o gartrefi a busnesau’r DU.
Mae disgwyl i fand llydan chwim fod wedi cyrraedd 95% o gartrefi a busnesau’r DU erbyn 2017 ar gost o £1.7 biliwn.
Eisoes, mae Llywodraeth Prydain wedi addo ymchwilio i’r 5% sy’n weddill er mwyn gweld beth sy’n bosib mewn mannau anghysbell nad ydyn nhw’n rhan o’r cynllun.
Mae 40,000 ychwanegol o gartrefi a busnesau’n derbyn mynediad i fand llydan chwim bob wythnos ar gyfartaledd, ac mae’r cynllun yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Prydain i gryfhau cyswllt we ar gyfer y sector preifat.
Bydd y mynediad band llydan chwim yn cynyddu elw busnesau ac yn creu 56,000 o swyddi newydd yn y DU erbyn 2024, gan ychwanegu £1.5 biliwn at yr economi, gan gynnwys £275 miliwn i gymunedau cefn gwlad bob mis.
Cafodd nifer o gynlluniau peilot eu lansio eisoes mewn wyth ardal yng ngwledydd Prydain er mwyn mesur y ffordd orau o gyrraedd mannau anghysbell.
Dywedodd Dirprwy Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: “Mae’r cyhoeddiad heddiw bod gan bron i 200,000 o gartrefi a busnesau Cymru fynediad i gyflymdra chwim yn garreg filltir arwyddocaol yng nghynlluniau uchelgeisiol y llywodraeth hon i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band llydan sy’n addas ar gyfer yr oes ddigidol.
“Mae band llydan chwim yn hanfodol nid yn unig ar gyfer bywyd bob dydd ond hefyd ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol.