David Cameron
Fydd lluoedd arfog gwledydd Prydain ddim yn ymyrryd i geisio atal ymosodiadau ar leiafrifoedd ethnig a chrefyddol yn Irac.
Ond mae’r Prif Weinidog wedi cefnogi penderfyniad yr Unol Daleithiau i helpu llywodraeth y wlad a bygwth cynnal ymosodiadau o’r awyr.
Fe ddywedodd David Cameron ei fod yn arbennig o bryderus am y lleiafrif Yazidi sydd wedi dianc i fynydd or enw y Sinjar i ddianc rhag ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd.
Mae ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd wedi bygwth eu lladd os na fyddan nhw’n troi at Islam.
‘Dim teithio’
Mae’r Swyddfa Dramor hefyd wedi rhybuddio pobol o wledydd Prydain rhag teithio i rannau o Gwrdistan yng ngogledd Irac, lle mae lluoedd y Wladwriaeth Islamaidd yn ennill tir.
Fe gyhoeddodd Arlywydd yr Unol Daleithiau eu bod yn barod i ymosod o’r awyr “er mwyn amddiffyn Americaniaid yn y wlad”.
Yn ôl Barack Obama, roedden nhw eisoes wedi gollwng nwyddau a bwyd i helpu’r bobol sydd dan warchae.
Fe fydd pwyllgor argyfwng Llywodraeth Prydain yn cyfarfod heddiw i drafod y pwnc.