Kylie Minogue yn perfformio yng Ngemau'r Gymanwlad, Glasgow neithiwr
Daeth Gemau’r Gymanwlad i ben neithiwr gyda seremoni fawreddog yng Nglasgow.

Roedd y seremoni yn Hampden Park yn dod a diwedd i’r cystadlu dros y 11 diwrnod diwethaf sydd wedi dod a phrifddinas yr Alban i sylw’r byd.

Ymhlith y rhai fu’n diddanu’r dorf o 40,000 neithiwr roedd Lulu a Kylie Minogue.

Mae Glasgow wedi trosglwyddo’r baton i’r Traeth Aur a fydd yn cynnal y gemau yn 2018.