Mae Geraint Thomas wedi ennill medal aur i Gymru yn ras feicio ffordd Gemau’r Gymanwlad.

Cafodd y Cymro ei wobrwyo am ymdrech arwrol – cafodd broblem gyda chadwyn ei feic yn weddol fuan yn y ras, ac yna dioddef teiar fflat gyda llai na 6km yn weddill.

Yn rhyfeddol, cyfaddefodd Thomas wedi’r ras ei fod yn “teimlo’n ofnadwy ar ddechrau’r ras” a’i fod wedi ystyried tynnu allan ar un pwynt.

Yn ffodus, mae’n amlwg ei fod wedi dechrau teimlo’n well ac fe gafodd ei hun mewn grŵp o dri beiciwr oedd yn glir o’r gweddill gyda Jack Bauer o Seland Newydd a’r Sais, Scott Thwaites.

Ymosododd Thomos wrth ddringo gyda 11.6km gan agor 45 eiliad o oruchafiaeth cyn i dwll yn ei olwy flaen ddod yn agos at dorri calonnau ei gefnogwyr.

Er i newid yr olwyn gymeryd tipyn o amser roedd ‘G’, fel y mae ei gyd seiclwyr yn ei alw, yn dal i fod â 20 eiliad o fantais.

Hyd yn oed gydag olwyn anghyfarwydd ar ffyrdd gwlyb allithrig dros ben, llwyddod y Cymro i ymestyn y fantais ymhellach gan olygu bod modd iddo fwynhau croesi’r llinell derfyn gan bwytio at y gair Cymru ar ei frest.

Gorffennodd y ras mewn amser o 4:13:05, ac roedd y Cymro arall, Luke Rowe yn chweched 4:32 tu ôl iddo.

Medal aur Thomas yw’r bumed o’r gemau i Gymru, ac mae’n codi cyfanswm y medalau i 36, sy’n 9 yn fwy na’r targed gwreiddiol a osodwyd.

I goroni diwrnod anhygoel i Geraint Thomas, bydd yn cael yr anrhydedd o gario baner Cymru yn y seremoni gloi yn Glasgow heno.