Cafodd gobeithion Morgannwg o gyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast eu chwalu ym Manceinion neithiwr, wrth iddyn nhw golli o un rhediad yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford.

Yn dilyn glaw trwm nos Wener, cafodd yr ornest ei gohirio tan brynhawn ddoe a phan ddechreuodd y gêm, penderfynodd Morgannwg fowlio’n gyntaf wedi iddyn nhw alw’n gywir.

Er i’r cae sychu’n ddigonol i gael dechrau’r ornest, roedd y tîm cartref mewn dyfroedd dyfnion yn ystod y cyfnod clatsio, wedi iddyn nhw golli wicedi Ashwell Prince a Tom Smith yn ystod pedair pelawd gynta’r batiad, a’r cyfanswm yn 19-2.

Ond cafwyd rhywfaint o sefydlogrwydd wrth i’r Awstraliad Usman Khawaja ddod i’r llain, a sgorio 67 oddi ar 54 o belenni, mewn batiad oedd yn cynnwys chwe phedwar ac un chwech.

Ymhlith y batwyr eraill, dim ond Karl Brown (15) a Steven Croft (16) lwyddodd i gyrraedd 10 rhediad neu fwy, ac roedd hi’n ymddangos fod gan Forgannwg un droed ar gae Edgbaston ar gyfer Diwrnod y Ffeinals cyn i’w batiad nhw ddechrau.

Seren y bowlio i Forgannwg oedd y troellwr ifanc Andrew Salter, wrth iddo fe gipio 2-19 mewn pedair pelawd wrth i Swydd Gaerhirfryn orffen eu batiad ar 137-8.

Cafodd y wicedi eraill eu rhannu rhwng y bowlwyr cyflym Michael Hogan (3-33) a Graham Wagg (3-28).

Bu’n rhaid i Forgannwg newid eu batwyr agoriadol ar y funud olaf yn dilyn anaf i Jacques Rudolph, felly’r wicedwr Mark Wallace agorodd gyda’r capten Jim Allenby.

Ond doedd hi ddim yn hir cyn i Rudolph ddod i’r llain wrth i Mark Wallace golli’i wiced am ddau rediad a chyfanswm Morgannwg yn 5-1.

Ychwanegodd Allenby a Rudolph 59 o rediadau at y cyfanswm cyn i Allenby ddychwelyd i’r cwtsh wedi sgorio 38 oddi ar 30 o belenni, a Morgannwg yn dal mewn sefyllfa gryf ar 64-2 gydag ychydig mwy na deg pelawd yn weddill.

Collodd Goodwin ei wiced am 17, wrth i seren ifanc Swydd Gaerhirfryn Jordan Clark (4-22) gipio’i wiced gyntaf ac roedd y rhod yn dechrau troi gyda Morgannwg yn 92-3.

Allai neb fod wedi rhagweld y byddai Morgannwg yn ymffrwydro, ond dyna ddigwyddodd wrth iddyn nhw golli Chris Cooke, Stewart Walters a David Lloyd o fewn un belawd, wrth i Clark gwblhau pelawd ddi-sgôr, a Morgannwg yn 100-6 ac mewn perygl o golli gyda phedair pelawd yn weddill.

37 oddi ar 24 o belenni oedd y nod, felly, wrth i Graham Wagg ymuno â Rudolph ond fe gollodd Wagg ei wiced gyda’r cyfanswm yn 114 ac fe fyddai angen tân gwyllt er mwyn achub Morgannwg.

Er i Andrew Salter daro pedwar yn y belawd olaf, gorffennodd Morgannwg un rhediad yn brin o’r nod er y byddai unioni’r sgôr wedi golygu buddugoliaeth i’r Cymry am eu bod nhw wedi colli llai o wicedi.

Swydd Gaerhirfryn fydd yn teithio i Edgbaston ar Awst 23, felly, ac fe fyddan nhw’n ymuno â Swydd Surrey, Swydd Warwick (Eirth Birmingham) a Swydd Hampshire.

Sgorfwrdd llawn yma

Diwrnod y Ffeinals – Y rownd gyn-derfynol (Edgbaston, Awst 23):

Swydd Surrey v Eirth Birmingham

Swydd Hampshire v Swydd Gaerhirfryn