Mae Sally Peake wedi ennill medal arian i Gymru yng nghystadleuaeth y naid polyn yn Glasgow.
Mewn amgylchiadau annifyr o wlyb, ar noson ola’r athletau yng Ngemau’r Gymanwlad, fe gliriodd uchder o 4.25m.
Roedd hi’n ail i Alana Boyd o Awstralia, a gliriodd 4.35m.