Geraint Thomas yn croesi'r linell derfyn
Diwrnod olaf gemau Glasgow heddiw, a seiclo ffordd sy’n dwyn y prif sylw.
* Medal arian Sally Peake yn y naid ffon yn codi cyfanswm medalau Cymru i 35
* Ras feicio ffordd y merched bore ma
* Ras ffordd y dynion i ddechrau am 12:01
21:45: Cyhoeddiad newydd ei wneud yn y seremoni gloi mai Frankie Jones o Gymru sydd wedi ennill gwobr David Dixon eleni – y wobr am berfformiad arbennig, chwarae teg a chyfraniad cyffredinol i’w tîm.
16:15: AUR I GYMRU! Ymdrech arwrol gan Geraint Thomas i gipio medal aur i Gymru yn y ras ffordd.
Stori lawn, anhygoel Geraint Thomas yma.
Ymdrech wych gan gyd aelod o dîm Sky Geraint Thomas, sef Luke Rowe (4:17:37), a orffenodd yn chweched yn y ras ffordd heddiw. Hefyd, Scott Davies (4:23:15) o Gaerfyrddin, sy’n ddim ond 18 oed yn gorffen yn ddegfed.
10:59: Bydd ras ffordd y dynion yn dechrau am 12:01, ac mae tîm cryf ar bapur gan Gymru’n cael eu harwain gan Geraint Thomas, a gipiodd efydd yn y ras ffordd yn erbyn y cloc ddydd Iau. Mae ei gyd-aelod o dîm Sky, Luke Rowe, hefyd yn y tîm ynghyd ag Owain Doull, Scott Davies, Jon Mould a Sam Harrison.
10:50: Ras ffordd y merched wedi gorffen, ac Amy Roberts oedd y Gymraes gyntaf i groesi’r llinell yn drydydd ar ddeg. Y Saesnes Lizzie Armistead gipiodd y fedal aur, gydag Emma Pooley o Loegr yn ail – gorffenodd Roberts 5:29 tu ôl i’r enillydd.