Y diweddaraf gan golwg360 o’r Cymry sydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow heddiw.
* 34 o fedalau gan Gymru bellach
* Gobaith gan Sally Peake yn y naid ffon
* Lee Doran yn ffeinal taflu’r waywffon
* Merched Cymru yn ffeinal y 4 x 100m
21:22: Usain Bolt yn cipio’r penawdau wrth i Jamaica ennill y 4x100m mewn 37.58, Lloegr yn ail.
21:07: Sally Peake wedi methu clirio 4.40 ac felly allan o’r gystadleuaeth, ond yn gadael gyda medal arian wych. Alana Boyd o Awstralia’n cipio’r aur.
21:02: Alana Boyd o Awstralia wedi clirio 4:35, felly’n arwain y naid ffon ar hyn o bryd. Sally Peake wedi penderfynu pasio’r uchder hwnnw, a bydd hi angen clirio 4.40 i aros yn y gystadleuaeth.
20:57: Tîm merched Cymru’n gorffen yn seithfed yn y 4 x 100m, gyda Jamaica’n cipio’r aur. Cymru’n torri’r record Gymreig gyda’u hamser 44:51.
20:53: Sally Peake newydd glirio 4:25m ar yr ymdrech gyntaf
20:45: Amgylchiadau’n anodd iawn yn y naid bolyn, ond Sally Peake o Gymru wedi clirio 4.15m ac yn sicr o fedal!
Lee Doran yn gorffen yn wythfed yn ffeinal taflu’r waywffon gyda thafliad 73.73m
19:50: Chris Gowell yn cymryd rhan mewn rownd derfynol gref yn y 1500m ac yn rhedeg yn dda iawn, gan orffen yn ddegfed mewn 3:42:10 – tair eiliad yn arafach na’i amser gorau.
19:30: Eli Kirk yn gorffen yn 12fed yn ffeinal y 5000m gydag amser 15.57.