Doedd hi ddim yn bosib cynnal yr ornest yn rownd wyth olaf y T20 Blast ym Manceinion heno, wrth i law trwm ddifetha’r gobeithion o gael dechrau am 6.30yh.
Penderfynodd y dyfarnwyr, Peter Hartley a Jeff Evans ohirio’r ornest tan yfory wedi iddyn nhw archwilio’r cae.
Pe bai’r glaw yn cadw draw, fe fydd yr ornest yn cychwyn am 2 o’r gloch prynhawn fory, heb i’r un belawd gael ei cholli, ac mae dydd Sul yn ddiwrnod wrth gefn hefyd pe bai angen.