Bydd Morgannwg yn teithio i Swydd Gaerhirfryn i herio’r ‘Lightning’ am y tro cyntaf erioed yn y gystadleuaeth hon, gan wybod y byddai buddugoliaeth yn sicrhau lle iddyn nhw yn y pedwar olaf ar Ddiwrnod y Ffeinals.
Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg gyrraedd rownd yr wyth olaf ers 2008, ac fe sicrhaon nhw eu lle yn y rownd yma yn dilyn buddugoliaeth o wyth wiced dros Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.
Gorffennodd y Lightning ar frig Grŵp y Gogledd, yn dilyn deg buddugoliaeth mewn pedair gêm ar ddeg, gan golli dwy a dwy wedi’u difetha gan y tywydd.
Pe bai Murray Goodwin yn cael ei ddewis heno, fe fydd yn torri record trwy fod y chwaraewr hynaf erioed i chwarae yn rowndiau olaf y gystadleuaeth hon, yn 41 oed.
Ni fydd chwaraewyr Lloegr ar gael heno, sy’n golygu y bydd Swydd Gaerhirfryn heb eu bowliwr cyflym Jimmy Anderson a’r wicedwr Jos Buttler.
Mae’n debyg iawn y bydd yr ornest heno’n cael ei heffeithio gan y glaw, ac mae Morgannwg eisoes wedi trydar i esbonio beth fydd yn digwydd pe bai’r glaw yn dod.
Pe na bai modd dechrau’r ornest heno, fe fydd yfory’n ddiwrnod wrth gefn ac fe fyddai modd cynnal gornest lawn gan ddechrau am 6yh.
Pe bai’r gêm yn dechrau heno a’r glaw yn atal y gêm rhag parhau, fe fyddai modd ail-ddechrau yn y bore o’r fan lle gorffennodd y gêm heno, a hynny heb golli’r un belen.
Pe bai deuddydd o law, yna fe fyddai’r canlyniad yn cael ei benderfynu trwy gynnal cystadleuaeth bowlio at y ffyn nos yfory.
Carfan 13 dyn Swydd Gaerhirfryn: P Horton (capten), K Brown, J Clark, S Croft, A Davies, K Jarvis, Kabir Ali, U Khawaja, A Lilley, S Parry, A Prince, T Smith, W White
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph, J Allenby (capten), W Bragg, M Goodwin, C Cooke, D Lloyd, M Wallace, S Walters, B Wright, A Salter, D Cosker, G Wagg, M Hogan
Chwaraewyr i’w gwylio:
Jim Allenby: Mae batwyr Morgannwg wedi bod yn gryfach na’r bowlwyr yn y gystadleuaeth ac mae’r bartneriaeth agoriadol rhwng Allenby a Jacques Rudolph wedi bod yn allweddol i Forgannwg ar ddechrau’r batiad trwy’r gystadleuaeth hon. Mae Allenby wedi sgorio dros 500 o rediadau, gan gynnwys canred a phedwar hanner canred, ac mae e’n bedwerydd ar restr y prif sgorwyr yn y T20 Blast ar hyn o bryd. Fe fydd ganddo fe gyfraniad i’w wneud gyda’r bêl hefyd.
Murray Goodwin: Tarodd Goodwin 41 yn y fuddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw i helpu Morgannwg i gyrraedd rownd yr wyth olaf, ac mae e wedi bod yn gadarn wrth ddod i’r llain yng nghanol y rhestr. Mae’n faeswr o fri hefyd ac yn gyflym rhwng y wicedi pe bai angen adeiladu rhediadau tua diwedd y batiad.
Karl Brown: Brown yw prif sgoriwr y Lighting yn y gystadleuaeth mor belled gyda 354 o rediadau ac fe darodd e ganred mewn gornest 50 pelawd yn erbyn Swydd Efrog ddechrau’r wythnos.
Kabir Ali: Mae Kabir Ali yn bumed ar restr y nifer fwyaf o wicedi yn y gystadleuaeth (19) ac mae e wedi bod yn allweddol i’r sir hyd yn hyn.