Fe fydd Alex Salmond ac Alistair Darling yn mynd ben-ben mewn dadl deledu yr wythnos hon, gyda’r ymgyrch ‘Ie’ yn rhagweld buddugoliaeth i’r arweinydd SNP a allai helpu refferendwm annibyniaeth y mis nesa’.

Mae papur newydd y Scotsman on Sunday yn dweud fod yr ochr ‘Ie’ yn dawel hyderus y bydd sgiliau cyfathrebu Alex Salmond yn ennill y dydd yn erbyn steil ychydig yn stiff cyn-Ganghellor y Trysorlys, llywodraeth Prydain, Alistair Darling.

Ar hyn o bryd, mae Yes Scotland yn dal ar ei hol hi yn y polau piniwn yn erbyn Better Together. A dyna pam mae dadl deledu nos Fawrth yn bwysig… ac yn gyfle.

Fe allai’r ddadl nos Fawrth fod y gynta’ mewn cyfres o dair, gan fod y trafodaethau’n parhau gyda’r BBC a Channel 4 am hyn.

A gyda Gemau’r Gymanwlad yn dod i ben yn ninas Glasgow heddiw, dim ond chwech wythnos sydd i fynd tan y bleidlais ar Fedi 18.

Ar hyn o bryd, mae cefnogaeth ‘Ie’ ar 45%.