Y diweddar Mike Smith
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Mike Smith, y DJ radio a fu farw yn ddim ond 59 mlwydd oed. Roedd wedi cael llawdriniaeth ar ei galon.

Fe ddaeth yn llais poblogaidd ar Radio 1, wedi ymuno gyda’r BBC yn 1982. Cyn hynny, roedd ganddo ei raglen ei hun ar Capital Radio.

Fe ddaeth yn gyflwynydd y Breakfast Show ar Radio 1 yn 1986; roedd yn un o gyflwynwyr Breakfast Time y BBC pan oedd 18 miliwn o bobol yn gwrando; ac roedd hefyd yn un o gyflwynwyr darllediad Live Aid yn 1985.

Ond, wedi damwain hofrennydd ddifrifol, fe roddodd y gorau i gyflwyno, gan ail-hyfforddi fel dyn camera a oedd yn arbenigo mewn cymryd lluniau o’r awyr.