Fe fydd prosiect “arloesol” i fapio 100,000 o godau DNA yn sicrhau mai Prydain fydd yn arwain y byd ym maes ymchwil genetig ar ganser a chlefydau prin, yn ôl Prif Weinidog Prydain.
Fe gyhoeddodd David Cameron becyn gwerth £300 miliwn i dalu i wyddonwyr fapio codau DNA 75,000 o gleifion sydd â chanser a chlefydau prin, ynghyd â’u perthnasau agos.
Fe fydd yr arbeingwyr yn mapio celloedd tiwmor a chelloedd iach y cleifion gan ddod â chyfanswm y samplau i 100,000.
‘Trawsnewid’
Mae gwyddonwyr yn disgwyl i’r prosiect fod yn ganolog i ddatblygiad triniaethau’r dyfodol fydd yn seiliedig ar eneteg.
“Dw i’n credu y byddwn ni’n gallu trawsnewid sut y mae clefydau ofnadwy yn cael eu hadnabod a’u trin yn y Gwasanaeth Iechyd a thros y byd,” meddai David Cameron.
Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2017.