Symbol y Cyngor Ffoaduriaid
Mae ffoaduriaid ifanc sy’n dod i Gymru mewn peryg o gael eu cam-drin oherwydd diffyg trefn i’w gwarchod, meddai ymgyrchwyr.

Yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, mae plant 14 a 15 oed yn gallu cael eu rhoi mewn tai gydag oedolion dieithr.

Maen nhw’n dweud bod toriadau ariannol ynghynt eleni yn golygu na all y Cyngor Ffoaduriaid bellach eiriol drostyn nhw.

Mae tua 30 o ffoaduriaid ifanc dan 18 oed yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn ar eu pennau eu hunain a heb ddogfennau.

Yn aml, mae eu rhieni wedi eu hanfon i ffwrdd i ddianc rhag rhyfeloedd neu sefyllfaeodd peryglus eraill, meddai Althea Collymore, swyddog cyfryngau’r Cyngor ar Radio Wales.

Dyw llawer ddim yn siarad Saesneg, dydyn nhw ddim yn deall y drefn ac mae’r awdurdodau’n credu eu bod yn hŷn nag ydyn nhw mewn gwirionedd.