Philip Hammond - cadeirydd pwyllgor COBRA heddiw
Fe fydd pwyllgor argyfyngau llywodraeth Prydain yn cyfarfod heddiw i drafod sut orau i ddelio gyda bygythiad yr afiechyd Ebol.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, wedi dweud fod peryg go iawn i’r feirws marwol ymledu i’r Deyrnas Unedig.

Does yr un dinesydd Prydeinig wedi cael ei daro eto, gan mai yng ngorllewin Affrica y mae’r afiechyd wedi cydio.

“Cyn belled ag y gwyddom ni, does dim lle i gredu fod neb o Brydain wedi dal Ebola eto,” meddai. “Ond mae’r Prif Weinidog yn ystyried Ebola yn fygythiad go iawn.

“Fe fydda’ i’n cadeirio cyfarfod o bwyllgor COBRA yn ddiweddarach heddiw er mwyn edrych ar unrhyw fesurau sydd angen i ni eu rhoi mewn lle dramor ac mewn swyddfeydd diplomyddol er mwyn rheoli’r bygythiad.”

Mae 670 o bobol yng ngorllewin Affrica wedi marw o ganlyniad i ddal Ebola.