Pedwar o'r nofwyr gydag Irfon Williams
Bydd deuddeg o ffrindiau yn nofio ar draws y Fenai y penwythnos hwn i gefnogi hen ffrind sy’n brwydro yn erbyn canser.

Penderfynodd Dewi Morris, 46 oed o Lanfairpwll drefnu’r digwyddiad nofio er mwyn cefnogi ymgyrch codi arian ei ffrind oes, Irfon Williams, er budd Uned Ganser Alaw yn Ysbyty Gwynedd.

Lansiodd teulu Williams ymgyrch #tîmirfon i godi £20,000 dros Uned Alaw, lle mae Irfon, 43 oed, o Fangor, yn cael triniaeth ar hyn o bryd wrth iddo frwydro â chanser y coluddyn a’r iau.

“Mae Irfon wedi gwneud rhai pethau gwych dros yr ychydig fisoedd diwethaf i godi arian a phenderfynais fy mod i am wneud rhywbeth enfawr i ddangos pa mor falch y mae pawb ohono,” meddai Dewi Morris.

“Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl bod hyn yn wallgof gan nad dyn chwaraeon o reddf ydw i, ond rwyf wedi bod yn hyfforddi’n galed ers wythnosau. Bydd y digwyddiad nofio’n werth ei weld, mae hynny’n sicr!”

Bydd Alan Chambers, cyn Gomando o’r Môr-filwyr Brenhinol a fforiwr adnabyddus, hefyd yn cymryd rhan, yn ogystal a Trystan Williams, a oedd yn aelodau o glwb nofio Bangor bron i 40 mlynedd yn ôl.

Yr actor o Gymru, Richard Harrington, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl arweiniol yn ‘Y Gwyll’ fydd yn agor y digwyddiad nofio uchelgeisiol yn swyddogol am 3yp ddydd Sul.