Mae Max Mosley am siwio cwmni Google am barhau i gyhoeddi lluniau o gyn-bennaeth Formula 1 mewn parti rhyw.
Mae Max Mosley, mab ieuengaf Syr Oswald Mosley, cyn arweinydd Undeb Ffasgwyr Prydain (BUF), wedi cychwyn achos yn erbyn Google Inc a Google UK Limited yn yr Uchel Lys.
Mae’n cyhuddo’r cwmni am gamddefnyddio gwybodaeth breifat ac am dorri’r Ddeddf Diogelu Data.
Asgwrn y gynnen yw ei fod yn ceisio stopio Google rhag cyhoeddi lluniau a gafodd eu cyhoeddi am y tro cynta’ ym mhapur newydd News of the World.
Roedd y papur newydd wedi honni ar y pryd fod y lluniau yn dangos Max Mosley mewn parti rhyw gyda thema Natsïaidd.
Ond, enillodd y dyn 74 mlwydd oed £60,000 mewn iawndal preifatrwydd yn 2008 ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu nad oedd thema Natsïaidd i’r parti, a bod yr erthygl ddim er budd y cyhoedd.