"Cadoediad dyngarol" yw galwad Cameron
Mae David Cameron wedi galw am “gadoediad dyngarol, diamod, ar unwaith” yn Gaza er mwyn dod a’r ymladd sydd wedi lladd tua 1,100 o Balestiniaid a 55 o Israeliaid i ben.
Neithiwr bu ymosodiadau ffyrnig unwaith yn rhagor, gyda bomiau Israel yn taro canolfan gyfyngol yn Gaza yn ogystal â storfa danwydd yn unig orsaf bŵer y Llain.
Mae’n dilyn rhybudd gan brif weinidog Israel Benjamin Netanyahu y bydd yr ymladd yn parhau, ond ar ymweliad i Slough heddiw fe fynnodd Cameron fod angen cadoediad.
“Mae’n bryd cael cadoediad dyngarol, diamod, ar unwaith,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae beth rydym ni’n gweld yn hollol dorcalonnus yn nhermau’r bywydau sydd wedi’u colli, a’r lluniau mae pawb wedi’u weld ar y sgrin deledu … mae pawb eisiau gweld hyn yn dod i ben.”
Ond mae’n glir o’r farn mai Hamas, sydd yn rheoli yn Llain Gaza, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddechrau’r ymladd.
“Mae’n rhaid i Hamas roi stop ar ymosod ar Israel gydag ymosodiadau roced. Dyna sut y dechreuodd pethau,” meddai Cameron.
“Mae’n hollol anghyfiawn ac mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny fel rhan o unrhyw gadoediad.
Yn y cyfamser mae cyn-ddiplomydd Prydain Syr John Holmes wedi dweud mai’r unig ffordd i ddatrys y sefyllfa yw bod yn barod i drafod gyda Hamas.
“Rwy’n poeni os nad ydyn ni’n dianc rhag y rhesymeg o drais ar y ddwy ochr, y byddwn ni yn union yr un sefyllfa eto mewn pum mlynedd,” meddai Holmes, a weithiodd gyda’r Cenhedloedd Unedig yn Gaza yn 2009 pan ymosododd Israel ddiwethaf.
“Dyw Hamas ddim yn mynd i fynd i ffwrdd ac rwy’n credu bod rhaid derbyn hynny, yn lle ynysu Hamas, mae’n rhaid i ni siarad gyda nhw.”