Mae angen mwy o eglurdeb ynglŷn â’r gyfraith ar ‘bornograffi dial’ a phryd mae modd erlyn rhywun, yn ôl pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Ond dydyn nhw ddim yn credu bod angen deddf newydd i daclo’r broblem, gan ddweud mewn adroddiad eu bod yn credu fod y deddfau presennol “ar y cyfan yn briodol”.
Yr wythnos ddiwethaf fe gyfaddefodd y Gweinidog Cyfiawnder, yr Arglwydd Faulks, fod pornograffi dial yn broblem gynyddol a bod y Llywodraeth yn ystyried deddfau newydd i ddelio â’r peth.
Beth yw ‘pornograffi dial’?
Fe ddaeth y term i fod wedi i bobl roi lluniau a fideos rhywiol o gyn-bartneriaid ar y we a gwefannau cymdeithasol ar ôl iddyn nhw wahanu, fel ffordd o ddial neu godi cywilydd ar y person hwnnw.
Mae Pwyllgor Cysylltiadau Tŷ’r Arglwyddi nawr wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i egluro pryd yn union y mae’r weithred yn troi’n drosedd.
Yn ôl yr Arglwyddi mae eisoes modd erlyn o dan y deddfau presennol, a ddaeth cyn gwefannau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a YouTube, sydd yn cynnwys Deddf Cyfathrebu 2003, Deddf Cyfathrebu Faleisus 1988 a Deddf Amddiffyniad rhag Aflonyddwch 1997.
Mae rhai ymgyrchwyr eisoes wedi galw am ddeddf newydd i daclo’r broblem o aflonyddwch a bwlio ar-lein, gan ddweud nad yw’r deddfau presennol wedi’u cynllunio ar gyfer oes y gwefannau cymdeithasol a phroblemau fel porn dial.
Yn eu hadroddiad fe awgrymodd yr arglwyddi y dylai gwefannau cymdeithasol wneud mwy i fonitro a cheisio atal aflonyddwch ar y we.
Ond fe ddywedon nhw hefyd y dylai rhieni ac ysgolion gymryd cyfrifoldeb dros addysgu plant fod ymddwyn yn gas tuag at eraill ar-lein yr un mor annerbyniol a gwneud hynny wyneb yn wyneb.
Wrth siarad ar raglen Today Radio 4, fe gyfaddefodd yr Arglwydd Best ei bod hi’n “anodd tu hwnt” plismona’r we pan mae cymaint o bobl arni, ond bod angen erlyn mewn “achosion eithafol”.