Fe all yr heddlu feddiannu ffôn symudol pob person sydd mewn damwain car er mwyn gwneud yn siŵr nad oedden nhw’n ei ddefnyddio wrth yrru, yn ôl canllawiau newydd.

Cyn hyn roedd ffonau symudol dim ond yn cael eu cymryd mewn damweiniau pan oedd pobl yn marw neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol.

Ond yn ôl canllawiau newydd gan Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu fe ddylai heddweision gael cip ar ffonau symudol pobl hyd yn oed os mai damwain fach yw hi.

Y bwriad yw lleihau’r damweiniau sydd yn cael eu hachosi oherwydd bod gyrrwr yn ffonio, tecstio neu bostio i wefannau cymdeithasol oddi ar eu ffonau wrth yrru – rhywbeth sydd wedi arwain at dros 500 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol bob blwyddyn ym Mhrydain yn ôl adroddiadau diweddar.

Gallai’r gosb am decstio wrth yr olwyn hefyd godi o dri i chwe phwynt, gan olygu y byddai rhywun oedd yn troseddu ddwywaith yn colli’u trwydded.

Mae elusen diogelwch ar y ffyrdd Brake wedi croesawu’r canllawiau, gan ddweud fod angen i droseddwyr wybod y byddwn nhw’n cael eu dal.

Ond mae Cynghrair Gyrwyr Prydain wedi mynegi pryder ynglŷn â’r cynlluniau, gan awgrymu y gallai’r heddlu ei “gorwneud” hi ac na ddylai pawb sydd mewn damwain golli eu ffôn.

Wrth drafod newid y gosb i yrwyr sydd yn defnyddio ffonau symudol, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Patrick McLoughlin yn gynharach y mis yma fod ffigyrau’r damweiniau sydd yn ymwneud â ffonau symudol yn ddifrifol a bod angen “newid hyn”.