Mae’r tair nyrs sydd wedi’u cyhuddo o esgeulustod bwriadol, wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr heddiw.

Mae Lauro Bertulano, 44;  Clare Cahill, 41; a Rebecca Jones, 29, i gyd yn byw yn ardal Pen-y-bont, ac mae’r tair wedi’u cyhuddo o dorri Adran 44, Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Fe fydd eu hachos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd, ac yn cael ei glywed Awst 11.

Mae pob un o’r nyrsus wedi’i gwahardd o’u gwaith yn Ysbyty Tywysoger Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ers y llynedd.