Mae twyllwr wedi cael clywed ei fod yn wynebu “cyfnod hir” dan glo, ar ôl cyfadde’ pocedu £300,000 allan o gasgliad oedd i fod i fynd at elusen Help for Heroes.

Fe fu Christopher Copeland, 51, yn recriwtio timau o weithwyr i fynd i gasglu arian mewn archfarchnadoedd ar hyd a lled gwledydd Prydain dros gyfnod o flwyddyn a hanner.

Roedd y timau’n defnyddio fflyd Christopher Copeland o hen geir a faniau milwrol, yn gwisgo crysau-T a chrysau chwys ‘Help for Heroes’, ac yn annog siopwyr i roi arian yn eu bwcedi.

Fe fyddai’r casglwyr, wedyn, yn trosglwyddo’r arian i Copeland – ac yntau’n rhoi’r arian yn ei gyfrifon banc ei hun.

Mae Llys y Goron Caerwysg wedi clywed fod y twyll wedi bod yn digwydd rhwng Chwefror 1, 2010 a Medi 17, 2011, pan gafodd Christopher Copeland ei arestio.