Mae hen felin wedi’i throi yn wersyll dros dro i brotestwyr sy’n gwrthwynebu ffracio yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gwrthdystwyr wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau datblygwyr i ddrilio tyllau arbrofol ger hen chwarel yng ngorllewin y dalaith.

Mae cwmni Tamboran Resources wedi cael gwaharddiad llys i rwystro protestwyr rhag mynd yn agos at y safle lle mae’r gwaith yn digwydd. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys drilio, a chasglu samplau o gerrig o’r fan yn Belcoo, County Fermanagh. Bwriad y cwmni yw asesu faint o botensial sydd i wneud cais pellach i dynnu nwy siâl o’r ddaear, sef y broses a elwir yn ffracio.

Ond mae protestwyr wedi sefydlu yr hyn maen nhw’n ei alw’n Wersyll Diogelu Cymuned Belcoo y tu allan i’r fynedfa i’r ardal sy’n cael ei drilio.

Mae ffensys metal a weiren bigog yn amgylchynu’r tir, ac mae cwmni diogelwch preifat yno’n cadw golwg hefyd.