Mae arolwg newydd wedi nodi bod angen i’r gwaith mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru yn ei wneud i amddiffyn y cyhoedd a lleihau risg o aildroseddu angen ei wella.
Dywedodd Paul McDowell, prif arolygydd y gwasanaeth prawf, bod nifer o faterion yn destun pryder.
Mae’r rhain yn cynnwys bod asesiad cychwynnol o’r tebygolrwydd troseddwr o aildroseddu un ai ddim yn cael ei wneud o gwbl neu yn cael ei gwblhau yn rhy hwyr mewn gormod o achosion.
Roedd yr arolwg hefyd yn nodi bod nifer o achosion ble nad oedd sgrinio cychwynnol neu ddadansoddiad llawn o’r risg oedd y troseddwr i eraill wedi cael ei wneud, a bod dim digon o achosion yn cynnwys cynllun effeithiol i reoli’r risg o niwed gan droseddwr.
Yn ogystal, doedd adroddiadau llys ddim bob amser yn cynnwys gwybodaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol lle’r oedd pryderon posibl am amddiffyn plant, a doedd gweithdrefnau aml-asiantaeth amddiffyn plant ddim yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol bob amser.
Er hynny, roedd pwyntiau cadarnhaol yn yr arolwg gan gynnwys bod y rhan fwyaf o adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth am eu tebygolrwydd o aildroseddu; roedd rheolwyr y gwasanaeth yn bositif am yr amrywiaeth o ymyriadau ar gael i’w cynorthwyo yn eu gwaith; ac roedd gwaith cyswllt â dioddefwyr yn dda.
Mae’r arolwg wedi gwneud argymhellion i wella’r gwasanaeth gan gynnwys asesu’r tebygolrwydd o aildroseddu yn brydlon ac i safon well a newid y ffordd mae’r gwasanaeth yn cysylltu gyda’r gwasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd Paul McDowell bod rhai o’r pwyntiau a godwyd yn “siomedig” a bod angen i “oruchwyliaeth gan reolwyr i fod yn fwy trylwyr”.
Ond, ychwanegodd: “Er gwaethaf hyn, pan oedd y gwaith yn dda, roedd y canlyniadau yn foddhaol a gwelsom ddefnydd da o ymyriadau i reoli risg unigolyn o niwed i eraill.
“Roedd y lefel gywir o adnoddau ar gael yn y rhan fwyaf o achosion a chafodd troseddwyr eu cyfeirio at ystod eang o wasanaethau lleol i helpu i leihau tebygolrwydd o aildroseddu.”