Aled Sion Davies
Dod yn ail i’r Sais, Dan Greaves, oedd hanes capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow fore heddiw.

Fe ddaeth Aled Sion Davies yn ail yn y gystadleuaeth taflu disgen i barathletwyr F42.

Roedd y Cymro 23 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi gobeithio cipio’r aur, gan ail-adrodd ei gamp yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

Arian Aled Sion Davies oedd ugeinfed medal Cymru yn Glasgow.

Mewn cystadleuaeth agos rhyngddo ef a Greaves fe daflodd Aled Davies bellter o 46.83 ar ei ail dafliad i fynd ar y blaen.

Ond ni lwyddodd i wella ar y pellter hwnnw yn yr un o’i dafliadau nesaf, gyda Greaves yn llwyddo i gipio’r aur a gadael Davies yn ail yn y canlyniadau terfynol.

20 medal i Gymru

Roedd disgwyl y byddai Davies, capten y tîm, yn un o obeithion pennaf Cymru am fedal aur yn y Gemau eleni, ac yntau’n dal y record byd yn ei gamp.

Yn anffodus nid ei fore ef oedd hi, ond fe allai gysuro’i hun gyda’r ffaith ei fod wedi ychwanegu at gasgliad medalau Cymru, o leiaf.

Mae hwnnw bellach fyny i 20 – mwy nag y cafwyd yn Delhi bedair blynedd yn ôl – ar ôl i drioedd bowlio lawnt y dynion gipio medal efydd y bore yma.

Roedden nhw’n herio Awstralia i weld pwy fyddai’n cipio trydydd yng nghystadleuaeth y trioedd, a Jonathan Tomlinson, Marc Wyatt a Paul Taylor yn y crysau coch oedd yn fuddugol ar ôl ennill o 16-14.

Gallwch ddilyn gweddill canlyniadau’r Cymry heddiw ar flog byw golwg360.