Maes awyr Gatwick (Llun llyfrgell)
Mae teithwyr ar awyrennau pedwar cwmni ym maes awyr Gatwick wedi cael eu cynghori i fynd adref heb eu bagiau oherwydd oedi cyn dod a nhw oddi ar yr awyrennau i’r terminws.
Mae swyddogion y maes awyr wedi dweud wrth deithwyr British Airways, Monarch, Thomas Cook a Thomson, sydd wedi bod yn disgwyl am hyd at bum awr am eu bagiau, y byddan nhw’n cael eu hanfon i’w cartrefi ac y dylen nhw felly fynd adref.
Mae teithwyr ar awyrennau easyJet hefyd wedi gorfod disgwyl ond heb gael yr un cyngor hyd yma.
Yn ôl awdurdodau Gatwick, prinder gweithwyr trin bagiau cwmni Swissport sydd wedi achosi’r trafferthion.
Mae nifer o deithwyr wedi beirniadu Swissport ar Trydar.
“Triniaeth Swissport yn hollol warthus yn Gatwick,” yn ôl un.
Dywedodd swyddogion y maes awyr eu bod wedi darparu staff ychwanegol i helpu Swissport a bod y sefyllfa yn gwella erbyn hyn.