Mae dyn 20 oed wedi marw yn yr ysbyty. Roedd wedi ei daro’n wael mewn gwyl ddawns.
Mae Heddlu Swydd Warwick yn ymchwilio wedi i’r dyn gael ei gludo ar frys i’r ysbyty o ddigwyddiad Global Gathering ym maes awyr Long Marston ger Stratford upon Avon.
Bu farw yn Ysbyty Warwick, er gwaetha’ ymdrechion staff i’w adfywi0.
Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb eglurhad.