Mae’r farchnad stoc wedi cael tolc heddiw, wedi i Visa ac Amazon gyhoeddi canlyniadau siomedig.
Fe gwympodd y Dow Jones 123 o bwyntiau, 0.7%, a chau ar 16,960. Fe gwympodd rhestr 500 cwmni Standard & Poor naw pwynt, neu 0.5%, a gorffen y dydd ar 1,978. Fe gwympodd y Nasdaq hefyd 22 points, neu 0.5%, i 4,449.
Fe aeth gwerth stoc Amazon i lawr $34.60, neu 9.6%, i $324.01 wedi i’r cwmni gwerthu ar-lein gyhoeddi colled fwy nag yr oedd y sylwebwyr wedi’i rhagweld.
Fe gafodd y Dow ei heffeithio’n bennaf gan Visa, a gwympodd $7.97, neu 3.6%, i $214.77. Fe gyhoeddodd y cwmni cerdyn credyd gynnydd o 11% yn ei elw am y chwarter diwetha’, ond mae ei ragolwg ar gyfer y flwyddyn nesa’ yn codi pryderon am dwf tramor.