Philip Hammond
Mae’n “rheidrwydd dyngarol” i ymestyn y cadoediad 12 awr yn Gaza, meddai Ysgrifennydd Tramor llywodraeth y Deyrnas Unedig, Philip Hammond.
Roedd yn siarad wedi cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, a gweinidogion o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, Twrci a Qatar.
Mae angen atal yr ymladd er mwyn achub bywydau, meddai.
Erbyn prynhawn heddiw, mae’r awdurdodau’n dweud bod bron i 900 o Balesteiniaid wedi’u lladd – nifer helaeth ohonyn nhw’n bobol ddiniwed – dros y 18 niwrnod diwetha’ yn Gaza.
Mae Israel, hithau, wedi colli 37 o filwyr a dau o bobol gyffredin.