Mae ysbyty yn Lloegr wedi gorfod gwagio ei hadran ddamweiniau ac argyfwng, oherwydd potel o laddwr chwyn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysbyty Prifysgol Gogledd Swydd Stafford yn Stoke-on-Trent, wedi i blentyn gael ei gludo yno yn diodde’ o anhwylder ar y llygad.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw er mwyn ceisio adnabod yr hylif oedd wedi cyrraedd yr ysbyty mewn potel.

Dyna pryd y cafodd cleifion a gweithwyr eu hebrwng o’r adran, cyn i’r gwasanaethau brys brofi mai lladdwr chwyn domestig oedd yr hylif peryglus dan sylw.