Mae cannoedd o bobol yn protestio yng Nghaerdydd y pnawn yma, yn erbyn y trais sy’n digwydd yn Gaza.

Mae’r gwrthdystwyr, yn cario placardiau ac arwyddion, wedi ymgynnull o flaen Neuadd y Ddinas er mwyn tynnu sylw at y lladd a’r brwydro.

Mae tua 800 o Balesteiniaid bellach wedi marw ers i’r ymladd ddechrau ar Orffennaf 8 rhwng milwyr Israel a gwrthryfelwyr Hamas.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod mwy na 140,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd yr ymladd.

Mae cyfarfod tebyg yn digwydd yn ninas Bangor heddiw hefyd.