Mae’r Unol Daleithiau wedi cau ei llysgenhadaeth yn Libya, ac wedi symud ei diplomyddion i Tunisia – a hynny oherwydd “pryderon tros ddiogelwch staff yn ninas Tripoli”.
“Oherwydd y trais parhaus yn ardal yn llysgenhadaeth yn Tripolli, rydan ni wedi symud ein staff allan o Libya, dros dro,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Mae’r penderfyniad hwn yn tanlinellu consyrn yr Arlywydd Obama ynglyn a’r risg i ddiplomyddion America dramor, yn enwedig yn Libya, lle mae’r cof yn dal yn fyw am yr ymosodiad yn 2012 ar bresenoldeb yr Unol Daleithiau yn ninas Benghazi.
“Mae diogelu ein swyddfeydd, a diogelu ein staff, ar frig ein rhestr flaenoriaethau,” meddai’r llefarydd eto.
“Nid penderfyniad hawdd oedd hwn.”