Mae rebeliaid yn Syria wedi saethu hofrennydd i’r ddaear yn ardal Aleppo yng ngogledd y wlad, gan ladd beth bynnag bedwar o bobol.
Fe gafodd yr hofrennydd ei saethu i lawr gyda thaflegryn, ac fe gwympodd i’r ddaear dros ardal dlawd Camp Nairab.
Mae hofrenyddion yn cael eu defnyddio gan luoedd yr Arlywydd Bashar Assad i ollwng bomiau baril, sydd wedi lladd miloedd o bobol ac achosi difrod anferth pan maen nhw’n ffrwydro.
Anaml iawn y mae’r rebeliaid yn llwyddo i daro’r hofrenyddion, er eu bod yn ceisio eu saethu i’r ddaear yn gyson.
Mae Aleppo, a oedd unwaith yn brifddinas prynu a gwerthu yn Syria, wedi bod yn safle brwydro ffyrnig ers i’r rebeliaid gipio rhan o’r ddinas yn 2012.