Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn honiadau fod barnwr wedi syrthio i gysgu yn y llys yn ystod achos yn ymdrin a threisio plentyn.

Mae’r Swyddfa Ymchwilio i Ymddygiad Barnwrol (JCIO) wedi cadarnhau eu bod yn edrych i mewn i’r cyhuddiad yn erbyn Philip Cattan, a oedd yn llywyddu’r achos yn Llys y Goron Manceinion.

Mae rhywun wedi cwyno ei fod wedi bod yn pendwmpian wrth i’r dioddefwr ifanc honedig roi tystiolaeth yr wythnos hon trwy gyfrwng linc fideo.