Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i ddyn gael ei ddarganfod mewn car, wedi’i saethu.

Dyw’r dyn ddim wedi’i enwi eto, ond fe ddaethpwyd o hyd iddo mewn car ger pentre’ Newton yn Swydd Warwick toc cyn cinio ddoe, a hynny wedi i’r heddlu dderbyn galwad ffôn gan aelod o’r cyhoedd.

Roedd y dyn wedi marw pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys.

Yn ôl Heddlu Swydd Warwick, fe welwyd un car yn gwyro oddi ar y ffordd, tra bod dau gar arall wedi’u gweld yn gadael y fan ac yn gyrru ymaith i gyfeiriad Newton Village a phriffordd yr A5.

Mae disgrifiadau o’r cerbydau gafodd eu gweld yn gadael y safle wedi’u disgrifio fel car hir lliw arian, a char arall o liw coch tywyll, metalaidd.