Neges 'Better Together' ar gyfer refferendwm Medi 18
Mae plaid yr SNP wedi galw ar ymgyrch ‘Better Together’ i ddychwelyd rhodd o £500,000 yn dilyn adroddiadau fod cwmni’r rhoddwr, Ian Taylor, mewn trafodaethau gyda chwmni olew o Rwsia.
Fe roddodd Mr Taylor, prif weithredwr y cwmni gwerthi olew Vitol, yr arian yn ei enw ei hun i’r ymgyrch sy’n ceisio annog etholwyr i bleidleisio ‘Na’ yn refferendwm annibyniaeth yr Alban ar Fedi 18.
Ond mae adroddiadau wedi’u cyhoeddi yn dweud fod Vitol mewn trafodaethau gyda Rosneft, sydd dan reolaeth y Kremlin, a chwmni sydd wedi cael ei dargedu gan sancsiynau’r Unol Daleithiau yn erbyn yr arlywydd Vladimir Putin.
Mae Vitol wedi gwrthod ymateb i’r stori hyd yma, gan ddweud nad ydyn nhw byth yn trafod yn gyhoeddus eu perthynas ag unrhyw gleient. Fe fydd yn parhau i weithredu yn ôl rheolau rhyngwladol, meddai wedyn.
Mae Ian Taylor hefyd wedi cyfrannu’n hael iawn i goffrau’r Blaid Geidwadol.