"Gweithredwch" ydi neges y Gymdeithas wedi bod
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei siom wedi i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddefnyddio gwybodaeth mewn dogfennau drafft er mwyn colbio’r sefydliad.
Ddoe, ar y wefan hon, roedd y Gymdeithas yn dweud ei bod hithau’n siomedig fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad o effaith iaith y gyllideb nesaf “gan anwybyddu dros hanner ei gwariant”.
Ym mis Chwefror 2013, addawodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth y mudiad iaith y byddai’n cyhoeddi asesiad o effaith iaith holl wariant Llywodraeth Cymru. Ond mewn cyfarwyddiadau i swyddogion sy’n paratoi’r asesiad, datgelwyd y bydd cyllidebau addysg ac iechyd yn cael eu heithrio o’r broses – tua £8 biliwn o wariant allan o gyllideb o tua £15 biliwn.
Ewyllys da

“Cafodd y dogfennau drafft hyn eu rhyddhau i Gymdeithas yr Iaith fel arwydd o ewyllys da er mwyn dangos y gwaith anferthol sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn llawn yn yr holl brif agweddau ar ein gwaith,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth wrth golwg360.

“Fel sy’n glir yn y dogfennau, mae rhaid i holl adrannau’r Llywodraeth, gan gynnwys addysg a iechyd, gyflwyno gwybodaeth fel rhan o’r asesiad. Dim ond rhan o’r cyllidebau ar gyfer iechyd ac addysg a roddir i sefydliadau allanol, lle mae trefniadau rheoli a dyletswyddau polisi gwahanol mewn lle, sydd wedi eu heithrio.
“Mae’n siomedig bod Cymdeithas yr Iaith wedi dewis anwybyddu’r cynnydd sylweddol a wnaed gennym,” meddai’r llefarydd wedyn, “ac yn hytrach canolbwyntio ar beth sydd yn ei hanfod yn gamddealltwriaeth ar eu rhan hwy.”