Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol yn dathlu llwyddiant eleni ar ôl wythnos a welodd torfeydd yn heidio i’r maes yn Llanelwedd.
Roedd y tywydd braf yn ffactor mawr yn hynny, gyda’r tymheredd yn codi i bron i 30 gradd Celsius ar adegau.
Yn ôl y trefnwyr roedd mwy o ymwelwyr, mwy o geir yn y meysydd parcio, mwy nag erioed o anifeiliaid yn cystadlu a chynnydd yn y nifer o stondinau ar faes y Sioe.
Ac wrth siarad ar ddiwedd wythnos y Sioe fe ddywedodd Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, David Lewis, nad oedd wedi gweld cystal yn ei 40 mlynedd gyda’r gymdeithas.
“Mae cystadlaethau’r anifeiliaid wedi bod yn wych yr wythnos hon ac rwyf wedi gwylio’r dyfarnu mewn syndod,” meddai.
“Mae ein sioe’n adnabyddus am ei naws teuluol ac mae cystadleuwyr ac ymwelwyr yn dod ymlaen yn dda.”
Technoleg
Roedd hefyd yn wythnos dda i dechnoleg ar faes Llanelwedd, gyda dros 8,000 o bobl yn manteisio ar y wifi am ddim oedd ar gael am y tro cyntaf a dros 10,000 o bobl yn lawrlwytho ap y Sioe.
Ac yn ôl prif weithredwr y Sioe, Steve Hughson roedd y ffrydiau byw ar y we oedd yn dangos y prif gylch a’r cneifio hefyd yn boblogaidd.
“Erbyn nos Fawrth roedd dros 30,000 o bobl wedi gwylio’r ffrydiau byw o 34 gwlad ar draws y byd, gan gynnwys yr Iseldiroedd, Rwsia, America, De Affrica, Malaysia a Siapan,” meddai. “Mae’n enw da rhyngwladol ni’n tyfu flwyddyn wrth flwyddyn.”
Yr orau yn y byd?
Wrth i’r wythnos ddod i ben fe ddisgrifiodd cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y Gymdeithas, John T Davies, mai hon oedd y “digwyddiad gorau yn y byd”.
“Rwyf yn falch o fod yn Gymro, yn falch o fod yn ffermwr ac yn falch o fod yn gysylltiedig â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Sioe,” meddai John Davies, gan ddweud y byddwn nhw’n sicrhau eu bod yn parhau â llwyddiant y Sioe am flynyddoedd i ddod.